Leyre Madariaga

Cyfarwyddwr Entrepreneuriaeth, Arloesedd a’r Gymdeithas Wybodaeth
Llywodraeth Gwlad y Basg

Mae Leyre Madariaga yn Faglor mewn Economeg a Gwyddorau Busnes. Mae rhan fawr o’i phrofiad proffesiynol wedi bod ynghlwm wrth Gysylltiadau Rhyngwladol a Masnach Tramor, ac yn enwedig rhai gydag elfen dechnolegol fawr. 

Mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Materion Tramor yn Swyddfa’r Arlywydd, Llywodraeth Gwlad y Basg ers 2013, ac ers 2020 mae hi hefyd yn Gyfarwyddwr Trawsnewid Digidol ac Entrepreneuriaeth yn Llywodraeth Gwlad y Basg.