Natalie Crawley

Rheolwr Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth
Llywodraeth Cymru

Yn 2001, graddiodd Natalie gyda gradd BA (Anrh.) mewn Rheoli Busnes Ewropeaidd, ac yn ystod ei gradd cafodd brofiad yn gweithio gyda Quaker Chemicals yn Barcelona. Ar ôl graddio, ymunodd Natalie â Bwrdd Twristiaeth Cymru, lle roedd yn gyfrifol am reoli’r rhaglen hyfforddiant ar sail y diwydiant twristiaeth ar gyfer gwefan newydd Croeso Cymru. 

Yn 2006, ymunodd Natalie â Llywodraeth Cymru i reoli pecyn cymorth ar-lein Rheoli Cyrchfannau Cymru. Yn 2012, cafodd Natalie ddyrchafiad ac ymunodd â’r adran Arloesedd gan gael ei phenodi i swydd rheolwr Ymgysylltu ag Academia. Roedd yn gyfrifol am reoli datblygiad a gweithrediad gwefan Arbenigedd Cymru.

Ar hyn o bryd mae’n Rheolwr Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) yn Adran Arloesedd Llywodraeth Cymru, ac mae Natalie’n gyfrifol am ddau weithrediad, gan gynnwys KTP a Phartneriaethau SMART. Mae’r ddau’n cynnig cefnogaeth i fusnesau a sefydliadau ymchwil Cymru i fasnacheiddio cynnyrch, prosesau a gwasanaethau newydd a ddatblygir drwy ymchwil, datblygiad a phrosesau arloesedd.