Phill Allen

Pennaeth Trosglwyddo Gwybodaeth a Masnacheiddio
Llywodraeth Cymru

Mae Phill yn Beiriannydd Trydanol cymwys a gweithiodd i gwmni Siliconix yn UDA am ddeuddeg mlynedd, yn bennaf ym maes priodweddu a dylunio lled-ddargludyddion. Yn 1991, ymunodd Phill â Shanning Laser Systems fel Rheolwr Cynhyrchu, ac roedd yn rhan o MBO cyn dod yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau, yn gyfrifol am ddyluniad a chynhyrchiad systemau laser meddygol a diwydiannol. Yn ystod ei amser gyda SLS, gweithiodd Phill yn Ewrop a Chorea ar gontractau ymchwil a datblygu mawr gyda chwmnïau megis United Distillers, ADAS, M&S a Vauxhall Motors. Roedd hefyd yn arweinydd prosiect y rhaglen laser Carbon Monocsid Eureka 113 yn y DU. 

Yn 1996, ymunodd Phill ag Awdurdod Datblygu Cymru a datblygodd y rhwydwaith Cwnselwyr Arloesedd a Thechnoleg newydd i Gymru, gan ddod yn Rheolwr Prosiect TGCh pedair blynedd yn ddiweddarach. Yn 2001, creodd Phill Rwydwaith Arloeswyr Cymru (WIN) wnaeth ennill y wobr orau ar gyfer cymorth arloeswyr rhyngwladol dair blynedd yn olynol. Yn 2002, cwblhaodd Phill radd Feistr Gwyddoniaeth, ac yn 2006 daeth yn Uwch Reolwr Rhaglen Technoleg, Gwyddoniaeth ac Arloesedd ar gyfer Busnes, lle roedd yn arwain ar raglenni cymorth Busnes ac Academia: Arloesedd Busnes, SMART Cymru ac A4B. 

Ar hyn o bryd, mae Phill yn Bennaeth Trosglwyddo Gwybodaeth a Masnacheiddio yn Adran Arloesedd Llywodraeth Cymru, ac mae’n gyfrifol am dri gweithrediad ERDF UE mawr. Mae’r rhain yn cynnwys cyllid ymchwil a datblygu i fusnesau (SMART Cymru), cyllid ar gyfer ymchwil cydweithredol rhwng y byd academaidd a diwydiant (SMART Expertise), yn ogystal â thîm o Arbenigwyr Arloesedd ac arbenigwyr Dylunio a Chynhyrchu (SMART Innovation). Mae Phill yn gyfrifol am raglen Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) Arloesedd y DU yng Nghymru, ac mae wedi bod yn arweinydd Llywodraeth Cymru ar sawl rhaglen INTERREG dan arweiniad Dylunio ers blynyddoedd lawer. 

Mae Phill yn gyn-gadeirydd y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg, ac ar hyn o bryd mae’n aelod pwyllgor llawn, ac yn aelod o GSE (Gwyddoniaeth a Pheirianneg Lywodraethol). Mae Phill hefyd yn is-gadeirydd y bwrdd Menywod ym maes STEM.