Baudewijn Morgan

Pennaeth Uned Horizon Ewrop
Llywodraeth Cymru

Mae Baudewijn wedi bod yn gweithio yn Uned Horizon Ewrop Llywodraeth Cymru cyn dechrau’r rhaglen Horizon 2020 yn 2014, gan ddod yn Bennaeth yr Uned yn 2018. Cyn arwain yr uned drwy’r newid diweddar, ei arbenigedd oedd Gogledd Cymru a meysydd Bwyd a Heriau Amgylcheddol Horizon 2020 – rhai o’r meysydd o’r rhaglen oedd yn perfformio orau yng Nghymru.

Dychwelodd Baudewijn, a gafodd ei eni yn yr Iseldiroedd a’i fagu ger Caerdydd, yn ôl i Gymru ar ôl gwneud gradd mewn ieithoedd yn Rhydychen. Mae wedi gweithio yn Awdurdod Rheoli Cronfeydd Ewropeaidd ers 2004, gan fagu profiad mewn mentrau cymunedol, offerynnau ariannol a buddsoddiadau seilwaith yn ogystal ag ymchwil ac arloesedd. Ar hyn o bryd, mae hefyd yn gweithio fel Pennaeth Cangen yn y tîm Ynni ERDF. Mae ganddo ddiddordeb amlwg yn y berthynas rhwng buddsoddi rhanbarthol a chronfeydd cystadleuol.