Karolien de Bruine

Swyddog Cyswllt yr UE
Oost NL, Dwyrain yr Iseldiroedd

Mae Karolien de Bruine yn Swyddog Cyswllt yr UE ar gyfer Dwyrain yr Iseldiroedd. Mae’n gweithio i Oost NL, sef asiantaeth ddatblygu ranbarthol. Ar ran 24 o bartneriaid o awdurdodau rhanbarthol a lleol, prifysgolion (cymhwysol) a sefydliadau busnes, mae’n cynrychioli’r rhanbarth ym Mrwsel ar themâu’n ymwneud ag arloesedd; Diwydiannau Clyfar a Chynaliadwy, a Chysyniadau ar gyfer bywyd iachus. Gelwir y cydweithrediad triphlyg hwn yn Th!nk East Netherlands.  Mae’n chwarae rhan weithredol ym Menter Vanguard, gan mai rhanbarth Dwyrain yr Iseldiroedd sy’n cadeirio ar hyn o bryd. Mae wastad yn chwilio am bartneriaid Ewropeaidd, gwybodaeth a chyllid i fusnesau bach a chanolig rhanbarthol.