Yr Athro Kevin Morgan

Deon Ymgysylltu
Prifysgol Caerdydd

Mae Kevin yn Athro Llywodraethu a Datblygu yn Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd, ac mae hefyd yn Ddeon Ymgysylltu Prifysgol Caerdydd. Mae diddordeb ymchwil Kevin yn ymwneud â phedair thema graidd:   

1.    Arloesedd / Datblygu Gofodol
2.    Bwyd / Cynaliadwyedd / Caffael Cyhoeddus
3.    Datganoli / Llywodraethu / Gwleidyddiaeth Diriogaethol
4.    Economi Sefydliadol / Mentrau Cymunedol / Lles 

Beth sy’n cyffroi lleoedd? Dyna un agwedd gyffredin ar bob un o ddiddordebau ymchwil Kevin. Dyna pam mae ganddo ddiddordeb mewn sut mae lleoedd gwahanol - dinasoedd, rhanbarthau, ardaloedd - yn llywodraethu eu hunain; sut a pham maent yn datblygu mewn ffyrdd mor wahanol; a sut mae’r costau a’r manteision datblygu yn cael eu rhannu. Mae ymchwil Kevin wedi cael cefnogaeth gan ystod eang o noddwyr, gan gynnwys yr ESRC (Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol), yr Academi Brydeinig; y Comisiwn Ewropeaidd; OECD; Sefydliad Bill a Melinda Gates/Rhaglen Fwyd y Byd; Sefydliad Joseph Rowntree; Sefydliad Plunkett a chan lywodraethau ac asiantaethau datblygu yn y DU a thu hwnt.

Rhwng 2013-2016 Kevin oedd Prif Ymchwilydd consortiwm o ddeg o brifysgolion yr UE a dwy rwydwaith ranbarthol wnaeth ennill y wobr FP7 am Arbenigedd Clyfar, polisi arloesedd rhanbarthol yr UE ar gyfer cyfnod rhaglennu 2014-2020.

Ar hyn o bryd, mae Kevin yn addysgu ar un cwrs israddedig (Daearyddiaeth Wleidyddol) a 2 gwrs MSc (Datblygu Trefol a Rhanbarthol a Dulliau Ymchwil). Mae Kevin hefyd yn cyfrannu at y radd Feistr mewn Arweinyddiaeth Gyhoeddus yn Ysgol Fusnes Caerdydd.