Dr David S Williams

Pennaeth Cemeg
Jellagen Ltd

Fel Cymrawd Ymchwil Sêr Cymru II ym Mhrifysgol Abertawe (2018 i 2020), bûm yn gweithio i ddatblygu nanoddeunyddiau newydd i'w defnyddio ym maes ymchwil biofeddygol. Hyd yn hyn, mae fy ngwaith academaidd wedi arwain at 35 o erthyglau ymchwil a adolygwyd gan gymheiriaid mewn cyfnodolion rhyngwladol blaenllaw (gan gynnwys erthygl a gyhoeddwyd yn Nature Communications, 2021), gyda'i gilydd mae fy ngwaith ymchwil wedi cael ei ddyfynnu dros 1400 o weithiau. Wedi gweithio yn y DU a'r Iseldiroedd (2014-2018), datblygais rwydwaith cydweithredol rhyngddisgyblaethol eang i ddatblygu ymchwil arloesol yn y rhyng-gysylltiad rhwng gwyddorau biolegol a ffisegol. Ers mis Medi 2020, rwyf wedi ymuno â chwmni biodechnoleg wedi'i leoli yng Nghaerdydd, fel Pennaeth Cemeg, lle'r wyf bellach yn gweithio i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o fioddeunyddiau ar sail colagen sglefren fôr ar gyfer peirianneg meinweoedd a chymwysiadau biofeddygol.