Anitha Devadoss

Uwch Gymrawd Ymchwil
Prifysgol Abertawe

Derbyniodd Anitha Devadoss ei PhD mewn gwyddorau cemegol (2011) o Brifysgol Dinas Dulyn, Iwerddon dan oruchwyliaeth yr Athro Robert J. Forster a'r Athro Tia E. Keyes. Yn ddiweddarach, bu'n gymrawd ôl-ddoethurol Brain-Korea-21 (2011-2013) ym Mhrifysgol Hanyang, De Corea, lle bu'n gweithio ar ddatblygu nanoddeunyddiau hybrid ar gyfer cymwysiadau biosynhwyro electrogemegol. Roedd yn ymchwilydd ôl-ddoethurol yng Nghanolfan Ymchwil Ryngwladol Ffotocatalysis, Prifysgol Wyddoniaeth Tokyo, Siapan rhwng 2014-2015. Symudodd i Brifysgol Abertawe, y DU yn 2015 a sicrhaodd Gymrodoriaeth MSCA COFUND Sêr Cymru II yn 2017 i ddatblygu biosynwyryddion ffotoelectrogemegol ar gyfer diagnosis cynnar o gancr. Ar hyn o bryd mae'n arwain ei grŵp ymchwil ar nanosynwyryddion arloesol ar gyfer diagnosis pwynt gofal, cynnar a fforddiadwy o afiechydon. Ariennir ymchwil Anitha gan gymrodoriaethau Sêr Cymru II (Y Comisiwn Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru dan ERDF), Innovate UK, EPSRC a Llywodraeth Cymru. Mae wedi cyhoeddi 37 o erthyglau ymchwil mewn cyfnodolion rhyngwladol a adolygwyd gan gymheiriaid a chyfrannu at 4 pennod llyfr. Mae'n llysgennad STEM brwd ar gyfer Cymru a'r DU, ac yn cynrychioli Athena SWAN, Siarter Hil, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yng Ngholeg Peirianneg, Prifysgol Abertawe. Yn nathliad canmlwyddiant Prifysgol Abertawe, cydnabuwyd Anitha fel un o'r bobl ysbrydoledig!