Dr. Shiyu Xie

Cymrawd Ymchwil
Prifysgol Caerdydd

Derbyniodd Dr. Shiyu Xie y radd B.S. o Brifysgol Wyddoniaeth a Thechnoleg Huazhong, Wuhan, Tsieina, yn 2007, a'r radd Ph.D mewn Peirianneg Drydanol ac Electroneg, o Brifysgol Sheffield, y DU, yn 2012. O 2012 i 2014, bu'n gweithio gyda Huawei Corporation fel Peiriannydd Ymchwil. Yn 2014, dychwelodd i Sheffield fel cymrawd ôl-ddoethurol gan weithio ar y genhedlaeth nesaf o ffotodiodau afalans. O 2016, ymunodd ag Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, Prifysgol Caerdydd. Rhwng 2017 a Chwefror 2021, bu'n gymrawd ymchwil yng Nghaerdydd dan nawdd Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Raglen Gymrodoriaeth Sêr Cymru, Llywodraeth Cymru, yn arwain a datblygu synwyryddion a system deunydd cyflwr solet yn seiliedig ar antimoni newydd. Erbyn hyn hi yw cyfarwyddwr technegol Advanced Micro-semi. Ltd. Mae Dr. Xie yn awdur ac yn gyd-awdur dros 20 o gyhoeddiadau mewn cyfnodolion a adolygwyd gan gymheiriaid a phapurau cynhadledd, a 6 phatent rhyngwladol a Tsieineaidd. Mae wedi derbyn nifer o ddyfarniadau a gwobrau ymchwil, gan gynnwys Gwobr Rhwydwaith Aur Huawei a Chronfa Ymchwil Hisilicon Huawei, Cronfa Innovate UK ac Ysgoloriaeth Ymchwil gan Gyngor Ysgoloriaethau Tsieina.