Dr Andrew Lloyd

Cymrawd Arweinwyr y Dyfodol UKRI
Prifysgol Aberystwyth

Enillodd Andrew BSc o Brifysgol Adelaide, Awstralia, ac aeth ymlaen i gwblhau ei PhD yn yr un sefydliad, gan dderbyn Medal Ddoethur y Brifysgol am ei waith ymchwil mewn geneteg esblygiadol. Ers hynny mae wedi dal swyddi ôl-ddoethur yn Ffrainc yn INRA Versailles, ac fel Cymrawd Marie Curie ym Mhrifysgol Harvard yn yr UD. Yn 2018 symudodd i Gymru ar gyfer Cymrodoriaeth Sêr Cymru wedi’i leoli yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn 2020 dyfarnwyd Cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol UKRI iddo er mwyn parhau â’r gwaith hwn. Mae gan Andrew ddiddordeb penodol mewn archwilio sut y gellir ymchwilio’r miloedd lawer o nodweddion buddiol a geir mewn poblogaethau gwyllt o berthnasau cnwd yn fwy effeithlon mewn rhaglenni bridio planhigion, gan helpu i ddatblygu cenhedlaeth newydd o gnydau sy’n barod ar gyfer y dyfodol.