Kirsty Williams MS

Gweinidog Addysg
Llywodraeth Cymru

Mae Kirsty Williams wedi bod yn Weinidog Addysg Cymru ers mis Mai 2016. Daeth i’r llywodraeth yn dilyn cytundeb gyda’r Prif Weinidog, gan arwain “cenhadaeth genedlaethol o ddiwygio addysg” ar bob lefel. Hi yw aelod Cynulliad Aberhonddu a Sir Faesyfed ers 1999, a hi oedd Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru 2008-2016. Hi oedd arweinydd benywaidd cyntaf plaid wleidyddol yng Nghymru. Mae’n briod â ffermwr ac mae ganddynt dair merch. Maent yn byw ar y fferm deuluol y tu allan i Aberhonddu.