Elin Rhys

Cyflwynydd

Wedi graddio mewn biocemeg o Brifysgol Abertawe, dechreuodd Elin ei gyrfa fel swyddog llygredd gyda Dŵr Cymru. Ar ôl pum mlynedd yno, aeth Elin ati i ddechrau gyrfa lawrydd yn y cyfryngau, yn cyflwyno ac yn ymchwilio ar raglenni gwyddonol ar y teledu ac ar y radio, ac yna symudodd at gyflwyno rhaglenni a rhaglenni dogfen gan gynnwys digwyddiadau byw, yn Saesneg ac yn Gymraeg, ac ar gyfer amryw o sianeli, gan gynnwys S4C, BBC Wales, BBC Schools, Channel 4 a HTV Wales.

Yn 1993, sefydlodd Elin Telesgop yn Llandeilo, a thyfodd y cwmni yn raddol o griw bach iawn o staff i gyfartaledd o 30 aelod llawn amser (28 ar hyn o bryd). Mae Telesgop yn gwneud cyfresi cylchgrawn a rhaglenni dogfen sy’n ymwneud â gwyddoniaeth, hanes, materion cyfoes amaethyddol, hanes naturiol, cerddoriaeth a'r celfyddydau, ar gyfer S4C, BBC Wales, BBC Three, BBC Four, Channel Four, Discovery US ac Animal Planet, yn ogystal â chynhyrchu cynnwys ar gyfer ysgolion a chleientiaid masnachol.

Mae’r cwmni’n buddsoddi’n aml mewn offer golygu a chamerâu, ac yn cyfaddef na fyddai fyth wedi symud ymlaen ugain mlynedd yn ôl oni bai am grant arloesi gan dîm Arloesi SMART Phill Allen.