Simon Ripton

Arbenigwr Arloesi

Mae cefndir Simon mewn peirianneg gemegol a phroses, gydag arbenigedd mewn gweithgynhyrchu, datblygu cynnyrch a rheolaeth newid.

Mae ganddo dros 22 mlynedd o brofiad yn y diwydiant, ac mae wedi gweithio mewn amrywiaeth o sefydliadau yn y sector preifat, o gwmniau rhyngwladol i rai sy’n dechrau, gan gynnwys gweithgynhyrchu a diagnosteg dyfeisiau meddygol; ynni adnewyddadwy; a cherbydau trydan.

Mae’n Arbenigwr Arloesi i Lywodraeth Cymru ers dros 7 mlynedd, ac mae Simon yn arwain ar dechnoleg ymchwil a datblygu cerbydau trydan a batri. Mae Simon yn gweithio gydag ystod amrywiol o fusnesau yng Nghymru, gan eu helpu i drawsnewid a thyfu er gwaethaf yr heriau.