Bydd Llywodraeth Cymru yn talu i alluogi ein partneriaid yn Iwganda i blannu coeden ar gyfer pob unigolyn sy’n cofrestru!

Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae Cymru wedi bod yn gweithredu ar gynaliadwyedd gartref a thrwy ein gweithredoedd byd-eang. Gan weithio gyda'n partneriaid o bob cwr o'r byd gallwn helpu i sbarduno newid yng Nghymru a'r byd.

Ymunwch â ni, a dysgwch fwy am COP26 a'n rôl fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang, clywch sut rydym yn helpu i blannu 25 miliwn o goed yn Uganda a'n cynlluniau ar gyfer Fforest Genedlaethol yng Nghymru.

Cawn gyfraniadau gan Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, Leah Namugerwa, gweithredydd ieuenctid o Uganda, yr Arglwydd Deben, Cadeirydd Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU gyda cherddoriaeth a dawnsio gan Grŵp Merched Sunnu o Mbale, Uganda. Bydd diweddariad gan Loïg Chesnais-Girard, Llywydd Cyngor Rhanbarthol Llydaw, ar eu gwaith rhyngwladol ar newid hinsawdd a’u partneriaeth â Chymru.  Bydd y digwyddiad rhithwir hwn yn cael ei arwain gan y cyflwynydd teledu, Iolo Williams, naturiaethwr, awdur a chadwraethwr arobryn Cymru ei hun.