Alex Harris

Dadansoddwr Gofodol
Llywodraeth Cymru

Mae gan Alex gefndir mewn rheoli amgylcheddol a choedwigaeth, gan astudio BSc ym Mhrifysgol Harper Adams ac yna MSc mewn GIS a Synhwyro o Bell; defnyddio delweddau lloeren i fonitro newid amgylcheddol. Mae bellach yn gweithio fel Dadansoddwr Gofodol i Lywodraeth Cymru, ac ar hyn o bryd mae yn Uganda yn ceisio datblygu'r rhaglen fonitro a gwerthuso geo-ofodol bresennol ar gyfer rhaglen coed Mbale. Y tu allan i'r gwaith, mae Alex yn rhandirwr brwd, yn rhan o griw'r RNLI, ac yn arweinydd y Sgowtiaid. Mae hefyd yn wirfoddolwr gydag Aber Food Surplus, ac Ymddiriedolaeth Coetir fel arsyllwr iechyd coed.