Leah Namugerwa

Gweithredydd Ieuenctid

Mae Leah Namugerwa yn weithredydd hinsawdd a'r amgylchedd. Hi yw Sylfaenydd Prosiect Birthday Trees, ac Arweinydd Tîm Fridays for Future Uganda. Dechreuodd ddeiseb i wahardd bagiau plastig yn Uganda. Plannodd 200 o goed ar ei phen-blwydd yn 15 mlwydd oed ac ers hynny mae wedi plannu 7500 o goed. Dosbarthodd barseli bwyd i 2000 o blant yn ystod cyfnod clo Covid-19 yn Uganda. Mae wedi dechrau ymgyrch i drechu newyn Plant yn Affrica.