Y Gwir Anrh Arglwydd Deben

Cadeirydd
UK Climate Change Committee

Fe wnaeth y Gwir Anrhydeddus John Gummer, yr Arglwydd Deben, sefydlu Sancroft, ymgynghoriaeth Cyfrifoldeb Corfforaethol sy'n gweithio gyda chwmnïau o'r radd flaenaf ledled y byd ar faterion amgylcheddol, cymdeithasol a moesegol, ac mae bellach yn ei rhedeg.   Yr Arglwydd Deben yw Cadeirydd y Pwyllgor ar Newid yn yr Hinsawdd, Valpak Limited, a'r Gymdeithas Rheoli Buddsoddi Personol ac Ymgynghorwyr Ariannol. Ef oedd yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd am y cyfnod hiraf erioed (1993-97).  Mae ei un mlynedd ar bymtheg o brofiad gweinidogol ar y lefel uchaf hefyd yn cynnwys Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, Gweinidog Llundain, Gweinidog Cyflogaeth a'r Tâl-feistr Cyffredinol yn Nhrysorlys EM.  Mae wedi hyrwyddo hunaniaeth yn gyson rhwng pryderon amgylcheddol a synnwyr busnes.