Nicola Pulman

Cyfarwyddwr
Maint Cymru

Mae gan Nicola Pulman gefndir mewn rheoli cefn gwlad ar gyfer cadwraeth a gweithio gyda phobl leol.  Ym 1998 gwirfoddolodd i Wasanaethau Gwirfoddol Dramor (VSO) yn Ghana yn cydlynu sefydliad cadwraeth anllywodraethol (NGO) sy'n ymroi i warchod ardaloedd o goedwig gymunedol sydd mewn perygl o'r enw Sacred Groves.  Yn Nigeria, gweithiodd Nicola gyda chymunedau coedwig i helpu i gynnal coedwigoedd glaw a phrimatiaid a gweithiodd ar brosiectau bywoliaeth a datblygu cymunedol cynaliadwy.  Yn y DU, mae Nicola wedi gweithio yn y sector elusennol ac i Sefydliad Addysg Uwch, Prifysgol Caerdydd, lle bu'n rheoli partneriaeth ryngwladol.