Iolo Williams, Gwesteiwr

Cyflwynydd Teledu

Magwyd Iolo Williams, y cyflwynydd teledu, yn Llanwddyn ger Llyn Efyrnwy.

Ar ddechrau 1985, cafodd Iolo swydd gyda'r RSPB a threuliodd 14 mlynedd yn gweithio i'r sefydliad. Yn ystod y cyfnod hwnnw, ymddangosodd yn aml yn y cyfryngau - ar y teledu, radio a phapurau newydd - a dod yn arbenigwr blaenllaw enwog ar adar Cymru.

Yn 1997, daeth Iolo yn fwy poblogaidd ar y teledu, ar ôl i BBC Wales ofyn i gael gweithio gydag o ar gyfres newydd o'r enw ‘Visions of Snowdonia’, oedd yn cofnodi bywydau chwe unigolyn oedd yn byw a gweithio ar lethrau mynyddoedd uchaf y wlad. Cafodd gynnig ail gyfres - y tro hwn, Iolo oedd 'Y Dyn Adar', ac mae'r enw wedi aros gydag o ers hynny.

Yn fuan ar ôl hynny, yn 1999, penderfynodd Iolo adael yr RSPB a dilyn gyrfa lawn amser yn y cyfryngau. He has since filmed several more series with BBC Wales, including ‘Wild Wales’, ‘Wild Winter’, ‘Iolo's Special Reserves’,  ‘Iolo's Natural History of Wales’ and ‘Iolo's Welsh Safari’.  

Mae Iolo wedi cyflwyno rhaglenni ar gyfer S4C hefyd.

Yn ystod mis Gorffennaf 2003, cerddodd y cyflwynydd teledu 270 milltir o Ogledd Cymru, i Dde Cymru mewn 11 diwrnod i godi arian ar gyfer dwy hosbis i blant, Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith.

Mae Iolo yn byw ym Mhowys hyd heddiw - ger Y Drenewydd, yn agos i'r ardal y cafodd ei fagu. Mae'n briod ac mae ganddo ddau fab.