Loïg Chesnais-Girard

Llywydd
Cyngor Rhanbarthol Llydaw

Mae Loïg Chesnais-Girard yn 44 mlwydd oed, ac mae ganddo ddau o blant.

Ganwyd yn Lannion (Gogledd-Orllewin Llydaw) ac yna symudodd ei rieni i Liffré, tref yn agos i Rennes yn Nwyrain Llydaw.

Astudiodd Economeg yn Rennes, a threuliodd sawl mis yn Efrog Newydd i gwblhau ei sgiliau. 

Yn 18 mlwydd oed, cafodd ei ethol yn gynghorydd yn ei gymuned, a daeth yn Faer yn 2008 yn 30 oed, swydd yr oedd ynddi tan 2017.

Wrth weithio mewn grŵp bancio, ei swydd oedd i fynd i’r afael â datblygu busnesau rhanbarthol.

Yn 2010, cafodd ei ethol yn Gynghorydd Rhanbarthol, o 2012, daeth yn Is-Lywydd y Cyngor Rhanbarthol, yn gyfrifol am yr Economi ac Arloesedd.

Ar 22 Mehefin 2017, yn 40 mlwydd oed, cafodd Loig Chesnais-Girard ei ethol fel Llywydd Cyngor Rhanbarthol Llydaw.