Nigel Topping

Hyrwyddwr Lefel Uchel y DU

Nigel Topping yw Hyrwyddwr Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd Lefel Uchel y DU, a benodwyd gan Brif Weinidog y DU ym mis Ionawr 2020. Mae Nigel yn gweithio ochr yn ochr â Hyrwyddwr Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd Lefel Uchel Chile, Gonzalo Muñoz. Rôl yr hyrwyddwyr lefel uchel yw cryfhau cydweithredu a sbarduno gweithredu gan fusnesau, buddsoddwyr, sefydliadau, dinasoedd a rhanbarthau ar newid yn yr hinsawdd, a chydlynu'r gwaith hwn gyda llywodraethau a phartïon yng Nghonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd - UNFCCC.

Yn fwyaf diweddar, roedd Nigel yn Brif Swyddog Gweithredol We Mean Business, clymblaid o fusnesau sy'n gweithio i gyflymu'r trawsnewidiad i economi di-garbon. Cyn hynny roedd yn Gyfarwyddwr Gweithredol y Prosiect Datgelu Carbon, yn dilyn gyrfa 18 mlynedd yn y sector preifat, yn gweithio ledled y byd mewn marchnadoedd sy'n dod i'r amlwg a gweithgynhyrchu.