Andrew Morgan

Cynghorydd
Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Daw'r Cynghorydd Andrew Morgan o Aberpennar yng Nghwm Cynon ac mae wedi bod yn Gynghorydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ers 2004 gan gynrychioli plwyf Gorllewin Aberpennar. 

Cyn cael ei ethol i gynrychioli ei gymuned leol roedd y Cynghorydd Morgan yn arfer gweithio i'r awdurdod.

Cafodd ei benodi i'r Cabinet yn 2008 a bu'n Aelod Cabinet dros Drafnidiaeth, Gofal Cwsmeriaid a Chynllunio Brys am bedair blynedd cyn cael y portffolio dros Wasanaethau Rheng Flaen. Cafodd ei wneud yn Arweinydd y Cyngor ym mis Mai 2014. 

Etholwyd y Cynghorydd Andrew Morgan yn Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ym mis Rhagfyr 2019, ac ef yw'r Llefarydd dros yr Amgylchedd, Datblygu Cynaliadwy a Gwastraff hefyd. Mae'n aelod o Fwrdd Gweithredol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Phanel Cynghori ar Drawsnewid Prifddinas-ranbarth Caerdydd.

Mae'r Cynghorydd Morgan wedi cadeirio Bargen Ddinesig Prifddinas-ranbarth Caerdydd a chadeirio Cynghrair Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru ar ôl cyfnod fel Is-gadeirydd yn y gorffennol.