Ben Winstanley MRICS

Rheolwr Ystadau Strategol
Cyngor Bro Morgannwg

Syrfëwr Siartredig a Rheolwr Ystadau Strategol Cyngor Bro Morgannwg yw Ben. Mae'n rheoli'r gwasanaethau Ystadau, Ynni a Chyfleusterau ac mae’n frwdfrydig dros gynaliadwyedd, ynni adnewyddadwy a beicio.

Mae Ben wedi bod yn rhan o fenter a oedd yn cynnwys nifer o golegau ar draws y cyngor, Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru a’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni a’r Ymddiriedolaeth Garbon ar drydaneiddio ceir fflyd.

Mae Bro Morgannwg yn gweithredu gwasanaeth ceir fflyd cadarn. Fe’i cyflwynwyd er mwyn sicrhau bod cerbydau'n ddiogel ac yn addas ar gyfer y ffordd gan leihau’r milltiroedd a gâi eu hawlio. Roedd y system hon yn gyfle i edrych ar y cerbydau gyda'i gilydd ac ystyried sut i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o sicrhau bod “pob car a cherbydnwyddau ysgafn newydd yn fflyd y Sector Cyhoeddus yn rhai ag allyriadau isel iawn erbyn 2025"

Ynghyd â'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni a'r Ymddiriedolaeth Garbon dadansoddwyd y defnydd presennol a wneir o'r fflyd gan ddefnyddio data GPS o'r flwyddyn flaenorol a lluniwyd argymhelliad.

Arweiniodd y gwaith at gais llwyddiannus i raglen gyfalaf y cyngor i ariannu seilwaith a cham cyntaf y ceir. Mae'r prosiect ar ganol cael ei ddarparu. Bydd Ben yn rhannu'r penawdau a'r gwersi a ddysgwyd hyd yma o'r prosiect.