Ann Cousins

Aelod Cyswllt, Ynni a Newid yn yr Hinsawdd
Arup

Mae Ann yn Aelod Cyswllt yn Arup, sy'n arwain tîm ynni a newid yn yr hinsawdd ledled Cymru a De-orllewin Lloegr. Mae'n gweithio gyda chleientiaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat i ddatblygu tystiolaeth ac archwilio cyfleoedd ar gyfer newid sy'n ofynnol i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd. Mae wedi gweithio i Arup ers degawd, ac mae ei phrofiad yn amrywio o weithio gyda Llywodraeth Cymru ar ynni cynaliadwy i ddatblygu achosion busnes ar gyfer cwmnïau cyfleustodau. Mae'n arwain y prosiect Zero2050 De Cymru, gan weithio'n agos â NGET, NGGT, WWU, WPD a Llywodraeth Cymru. Mae'n cydlynu partneriaid sy'n darparu mewnbwn arbenigol ar draws meysydd pwnc yn cynnwys economeg gymdeithasol, trafnidiaeth, a diwydiant.