Cat Griffith-Williams

Prif Swyddog Gweithredol
Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru

Cat Griffith-Williams yw Prif Swyddog Gweithredol Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru, llais unedig y sector amgylchedd adeiledig yng Nghymru, yn ogystal â Phennaeth Cymru ar gyfer y Gymdeithas Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu. Mae wedi gweithio fel Swyddog Gweithredol Cenedlaethol ar gyfer SEC Group Wales/Cymru, Grŵp y Contractwyr Peirianneg Arbenigol ac mae ganddi gefndir cryf mewn cyfathrebu. Rheolodd swyddfa Grayling yng Nghymru, un o asiantaethau cyfathrebu'r DU, lle'r oedd yn gyfrifol am ei strategaeth gyffredinol a goruchwylio materion cyhoeddus, partneriaethau strategol a chysylltiadau â rhanddeiliaid, gan gysylltu â Llywodraeth Cymru, BT, Land Securities a'r Comisiwn Ewropeaidd.