Chris Endacott

Ymgynghorydd Fflyd
Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru

Ar ôl graddio o Brifysgol Salford, roedd gyrfa gynnar Chris yn ymwneud ag asesu effaith amgylcheddol ddefnyddio plaladdwyr gan gynnwys cyfnodau'n gweithio i ICI, Bayer, Shell a Ciba-Geigy.  Ar ôl cwblhau ei Ddoethuriaeth yng Ngholeg Imperial, treuliodd Chris gyfnod yn gweithio ym maes newyddiaduraeth wyddonol i grŵp Reed Elrywvier cyn symud yn ôl i'r sector amgylcheddol.  

Ym 1994 ymunodd Chris â'r ymgynghoriaeth amgylcheddol Aspinwall and Company Ltd a chafodd gyfrifoldeb am fflyd o dros 200 o gerbydau oedd yn cynnwys rigiau drilio tirlenwi.  Cyflwynodd y cwmni bolisi "Fflyd Werdd" arobryn ym 1997 a oedd yn lleihau allyriadau a chostau carbon.  

Yn 2001 gadawodd Chris Enviros Aspinwall i sefydlu'r ymgynghoriaeth trafnidiaeth gynaliadwy Gfleet ac mae wedi gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ers 2002 a WGES ers 2019.  Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Chris wedi arbenigo mewn datgarboneiddio trafnidiaeth ffyrdd a, gyda chydweithwyr, mae wedi datblygu methodolegau cadarn ar gyfer asesu'r cyfleoedd i gyflwyno cerbydau ag allyriadau isel iawn- fel arfer ond nid yn unig, rhai â batri trydan - i fflydoedd a phennu'r seilwaith angenrheidiol ar gyfer gwefru cerbydau neu eu hail-lenwi â thanwydd.  Ochr yn ochr ag ymgynghoriaeth fflyd mae Chris hefyd yn cynnal cwrs i hyfforddi archwilwyr nwyon tŷ gwydr ac Ynni ac mae'n cyfrannu at gwrs Meistr mewn Cynaliadwyedd yng Ngholeg Prifysgol Llundain.