David Jones

Cyfarwyddwr Rhanddeiliaid
Simply Blue Energy

Mae David yn canolbwyntio ar ymgysylltu â rhanddeiliaid ar gyfer portffolio Blue Gem Wind o brosiectau gwynt arnofiol yn y Môr Celtaidd. Mae hyn yn cynnwys gweithio â phob parti sydd â diddordeb o gwmnïau cadwyn gyflenwi, porthladdoedd, y llywodraeth a chymunedau arfordirol.

Cyn ymuno â Simply Blue Energy, roedd David yn Brif Swyddog Gweithredol Fforwm Arfordir Sir Benfro, cwmni llwyddiannus iawn, a bleidleisiwyd yn "fenter gymdeithasol fwyaf cynaliadwy" Cymru. Mae wedi gweithio'n benodol ar ynni'r môr ers dros 12 mlynedd, gan ddatblygu Ynni Môr Cymru o ddechreuad i gydweithrediad a ystyrir yn arfer gorau ledled y byd. Mae hefyd wedi gweithio'n uniongyrchol i Weinidogion y Llywodraeth a llunio polisi ynni'r môr ategol yng Nghymru.