Gwydion Ilan ap Wynn

Rheolwr Prosiect
Y Dref Werdd

Mae Gwydion wedi gweithio gyda’r Dref Werdd ers bron i 15 mlynedd bellach a 5 mlynedd fel y rheolwr. Mae materion amgylcheddol a newid hinsawdd yn bwysig iawn iddo ac mae hynny i’w weld yn nifer y prosiectau y mae’r Dref Werdd yn eu cynnal heddiw.

Mae Gwydion yn gyfrifol am reoli’r prosiect o ddydd i ddydd, sy’n cynnwys rheoli staff, datblygu prosiectau a’r cwmni, yr holl faterion cyllidol a hyrwyddo gwaith y prosiect yn rheolaidd. Rhan orau Gwydion o’r swydd yw’r gwaith amgylcheddol sy’n cynnwys diogelu cynefinoedd Bro Ffestiniog, datblygu mannau cymunedol, plannu coed a gwaith ymarferol yn gyffredinol!!

Yn wreiddiol o Groesor, mae Gwydion wedi byw yn ardal Bro Ffestiniog, cyn ymgartrefu gyda’i deulu yn ardal Llecheiddior ger Garndolbenmaen.

Pan fo ganddo ychydig o amser yn sbâr, mae Gwydion yn hoff o redeg ar hyd mynyddoedd Eryri, pysgota môr o amgylch Pen Llŷn a threulio amser gyda’i blant, Caleb, Elenid a Beca.