Lisa Lafferty

Swyddog Prosiect
Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru

Mae gan Lisa bum mlynedd o brofiad o weithio ar draws ystod o brosiectau lliniaru effeithiau'r newid yn yr hinsawdd a thrawsnewid ynni. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar waith ymchwil a dadansoddi blaenllaw ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. 

Mae prosiectau Lisa wedi rhychwantu ystod eang o feysydd yn cynnwys datblygu strategaethau ynni rhanbarthol, meithrin cwmnïau technoleg glân yn eu camau cynnar, effeithlonrwydd ynni, cyllid gwyrdd, systemau masnachu allyriadau, oeri glân, mynediad at ynni, ac amaethyddiaeth doeth o ran hinsawdd. Mae Lisa yn aml yn defnyddio'r profiad eang hwn wrth weithio ar strategaethau rhanbarthol sy'n rhychwantu nifer o sectorau. 

Yn yr un modd, mae profiad Lisa yn rhychwantu ardaloedd daearyddol amrywiol; mae wedi gweithio ar brosiectau yng Nghymru, Lloegr, Chile, Colombia, Mecsico, India a Maleisia. Mae Lisa yn cyfrannu at brosiectau drwy ddefnyddio sgiliau technegol, megis dadansoddi GIS a modelu ariannol ac economaidd, yn ogystal â methodolegau cymdeithasol, megis cyfweliadau lled-strwythuredig. 

Mae gan Lisa radd meistr yn yr Amgylchedd a Datblygu o King's College Llundain a gradd baglor o Brifysgol Delaware lle arbenigodd mewn Economeg a Sbaeneg.