Paul Cooke

Uwch Swyddog Polisi
Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Ymunodd Paul â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn 2005 fel Cydlynydd Datblygu Cynaliadwy a bu'n Uwch Swyddog Polisi iddynt ers 2016.  Mae'n rheoli tîm sydd ag amrywiaeth o gyfrifoldebau o gydlynu gwaith y Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus ac ymgorffori Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ar draws y sefydliad, i Raglen Adsefydlu Ffoaduriaid Syria, Cyfamod y Lluoedd Arfog, a Brexit!  Mae ganddo brofiad sylweddol o roi cynaliadwyedd ar waith yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.  

Mae'n Bensaer Tirwedd cymwysedig a bu'n rhedeg ei gwmni tirlunio ei hun am 8 mlynedd cyn symud i Dde Cymru i weithio i elusen adfywio.  Mae ganddo Radd Meistr mewn Rheolaeth Amgylcheddol, mae'n archwilydd amgylcheddol cymwysedig ac mae wedi rheoli rhaglen Rheolaeth Amgylcheddol "y Ddraig Werdd" am 3 blynedd.  

Y tu allan i'r gwaith mae'n bêl-droediwr ac yn seiclwr brwd.  Mae'n ceisio bod yn hunangynhaliol ac mae’n tyfu llawer o fwyd ar gyfer ei deulu ei hun, yn cadw gwenyn, ac yn ddiweddar mae wedi sefydlu system aquaponics.

Arweiniodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili raglen adolygu fflyd drwy Went gyfan a gwnaed cais llwyddiannus am gyllid gan Swyddfa Cerbydau Allyriadau Isel (OLEV).  Mae gan yr awdurdod Strategaeth Cerbydau Trydan y cytunwyd arni ac yn ddiweddar gosododd dargedau uchelgeisiol i newid ei fflyd i gerbydau trydan fel rhan o'i ymrwymiad i fod yn garbon niwtral erbyn 2030.