Peter Davies

Cadeirydd
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Mae cefndir gyrfa Peter ym maes cyfrifoldeb corfforaethol gan weithio i Gydffederasiwn Diwydiant Prydain, yr Adran Masnach a Diwydiant ar bartneriaethau addysg busnes. Dyfarnwyd yr OBE iddo ar gyfer y gwaith hwn ym 1995. Bu'n Rheolwr Gyfarwyddwr Busnes yn y Gymuned rhwng 1995 a 2005 yn arwain gwaith ar ddatblygu cyfrifoldeb corfforaethol.

Fe'i penodwyd yn Is-gadeirydd Comisiwn Datblygu Cynaliadwy'r DU yn 2006, gan ddod yn Gomisiynydd Dyfodol Cynaliadwy Cymru yn ddiweddarach ac yn gadeirydd Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd, gan chwarae rhan allweddol yn natblygiad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Dyfarnwyd CBE i Peter am ei gyfraniad at ddatblygu cynaliadwy yn 2016.

Ar hyn o bryd mae'n cadeirio Grŵp Her Cwsmeriaid Dŵr Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Grŵp Rhanddeiliaid Morol Cymru, Maint Cymru ac Ynni Cymunedol Sir Benfro. Mae'n aelod o Banel Cynghori WWF Cymru, Gwarchodwr Cymunedol River Simple ac Athro Ymarfer ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.