Tim German

Uwch Reolwr
Energy Systems Catapult

Yn hanu o Gaerdydd, mae Tim yn gyfrifol am reoli perthnasoedd allweddol Energy Systems Catapult a phob corff y Llywodraeth a Rheoleiddio ar lefel genedlaethol, ddatganoledig a lleol. 

Cyn y swydd hon, roedd yn Bennaeth Rheoli Rhanddeiliaid ESC.  Trosglwyddodd o'r Sefydliad Technolegau Ynni (ET) i helpu i ffurfio tîm craidd ESC ym mis Tachwedd 2015.  Chwaraeodd rôl allweddol yn datblygu'r rhaglen Systemau Clyfar a Gwres, sefydlu perthnasoedd ag awdurdodau lleol, prifysgolion; llywodraethau a BBaChau ledled y DU.  

Yn y gorffennol bu'n rheoli rhaglenni ynni yng Nghernyw lle datblygodd ei arbenigedd mewn dod â'r sectorau cyhoeddus a phreifat ynghyd i gyflawni agenda ynni carbon isel hanfodol ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol. Cyn camu i fyd cynaliadwyedd ynni, gweithiodd Tim ym meysydd rheoli'r celfyddydau, addysg ac fel canwr opera proffesiynol, yn bennaf gydag WNO.