Jennifer Geroni

Cyfarwyddwr
Platfform yr Amgylchedd Cymru

Mae gan Jennifer Geroni dros 12 mlynedd o brofiad ym maes ymchwil amgylcheddol, rheoli ymchwil a darparu cyngor gwyddonol i'r llywodraeth. Ar ôl cwblhau Doethuriaeth yn ymchwilio i opsiynau adfer ar gyfer draenio pyllau glo ledled y DU, treuliodd 2 flynedd yn gweithio yn Swyddfa Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru. Ar hyn o bryd mae'n Gyfarwyddwr Platfform yr Amgylchedd Cymru, sefydliad sy'n ceisio pontio'r bylchau rhwng ymchwilwyr a llunwyr polisi i gefnogi'r gwaith o lunio polisïau sy'n seiliedig ar dystiolaeth.