Harshinie Karunarathna

Athro
Prifysgol Abertawe

Mae'r Athro Harshinie Karunarathna yn gadeirydd personol yng Nghanolfan Zienkiewicz ar gyfer Peirianneg Gyfrifiadurol Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe, y DU. Cwblhaodd BSc (Peirianneg) mewn Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Moratuwa, Sri Lanka, MSc yn Aberoedd Afonydd a Pheirianneg Arfordirol yng Ngholeg Imperial, Llundain a Doethuriaeth mewn Peirianneg Arfordirol ym Mhrifysgol Saitama, Japan. Ei phrif ddisgyblaeth o ran ymchwil ac addysgu yw peirianneg arfordirol ac aberol. 

Ei phrif ffocws ymchwil yw hydro-morffodynameg arfordirol ac effeithiau newid yn yr hinsawdd ar y parth arfordirol. Cefnogwyd ei hymchwil gan Gynghorau Ymchwil y DU a nifer o ffynonellau ariannu eraill. Mae wedi cyhoeddi dros 170 o erthyglau ymchwil mewn cylchgronau rhyngwladol effaith uchel a thrafodion cynadledda a adolygwyd gan gymheiriaid ac mae wedi goruchwylio 14 o fyfyrwyr Doethuriaeth i gwblhau eu traethodau hir yn llwyddiannus. 

Ar hyn o bryd mae Harshinie yn arwain grŵp Ymchwil Ynni a'r Amgylchedd y Coleg Peirianneg.