Steve Ormerod

Athro Ecoleg
Prifysgol Caerdydd

Mae Steve Ormerod yn Athro Ecoleg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ganddo dros 40 mlynedd o brofiad fel ecolegydd academaidd gan weithio'n bennaf ar effeithiau newid byd-eang ar strwythur, swyddogaeth a gwasanaethau ecosystemau mewn nentydd, afonydd a llynnoedd. 

Mae ganddo restr o gyhoeddiadau ar ffisio-gemeg afonydd, a chanlyniadau newid i ddiatomau, infertebratau, pysgod ac adar afonydd yn y DU a thramor.  

Y tu allan i Brifysgol Caerdydd, mae'n ymwneud yn helaeth â chymhwyso ecoleg i gadwraeth bioamrywiaeth a rheolaeth amgylcheddol. Cadeiriodd Steve Gyngor y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar - elusen bywyd gwyllt fwyaf Ewrop - tan fis Hydref 2017, a daeth yn Is-lywydd yn 2018. Mae hefyd yn Gadeirydd Buglife - Sefydliad Dielw Infertebratau Ewrop a daeth yn Aelod o'r Bwrdd ac yn Ddirprwy Gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn aelod o’r Cydbwyllgor Cadwraeth Natur ym mis Tachwedd 2018.