Nathalie Seddon

Athro Bioamrywiaeth
Prifysgol Rhydychen

Mae Nathalie Seddon yn Athro Bioamrywiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen ac yn Gyfarwyddwr y Fenter Datrysiadau seiliedig ar Natur (www.naturebasedsolutionsinitiative.org), rhaglen ryngddisgyblaethol o ymchwil, cyngor polisi ac addysg sy’n ceisio cynyddu dealltwriaeth o effeithiolrwydd datrysiadau seiliedig ar natur i heriau byd-eang. 

Ar ôl hyfforddi fel ecolegydd esblygol ym Mhrifysgol Caergrawnt, datblygodd ddiddordebau ymchwil eang o ran deall tarddiad a chynnal bioamrywiaeth a'i pherthynas â newid byd-eang. 

Mae'n Uwch Gydymaith Sefydliad Rhyngwladol yr Amgylchedd a Datblygu ac yn Uwch Gymrawd Ysgol Martin Rhydychen. Mae Nathalie yn cynghori llywodraethau, asiantaethau'r Cenhedloedd Unedig a busnesau ar Ddatrysiadau seiliedig ar natur ac mae'n un o Gyfeillion CoP26  h.y. un o 28 o arbenigwyr byd-eang sy'n cynghori llywodraeth y DU ar CoP26 ar hyn o bryd.