Christopher Lewis

Uwch Gynghorydd Smgylcheddol
GIG Cymru

Mae Christopher Lewis yn wreiddiol o Bontypridd yn Ne Cymru, ond mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Graddiodd o Brifysgol Nottingham gyda gradd mewn Peirianneg Amgylcheddol a Rheolaeth Adnoddau yn 1996, ac ers hynny, mae wedi gweithio ym maes rheolaeth amgylcheddol yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Ar hyn o bryd, mae'n gweithio i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, ac mae'n gyfrifol am arwain portffolio'r bwrdd - cynghori'r GIG yng Nghymru ar holl agweddau rheolaethol amgylcheddol a chyfleusterau, gan gynnwys ynni a charbon, gwastraff clinigol ac ailgylchu.