Hâf Elgar

Cyfarwyddwr
Cyfeillion y Ddaear Cymru

Haf Elgar yw Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru. Cyn hynny, roedd hi'n Ymgyrchydd i'r sefydliad yng Nghymru, ac mae hi wedi bod ynghlwm â Chyfeillion y Ddaear ers 2008.

Yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae hi wedi arwain tîm oedd yn ymgyrchu dros Gymru ddi-ffosil heb unrhyw fwyngloddio glô brig neu ffracio, ac wedi cefnogi rhwydwaith gynyddol o grwpiau llawr gwlad ledled Cymru. Mae hi hefyd wedi gweithio mewn cynghrair i atal ffordd liniaru'r M4, wedi dylanwadu ar ddeddfwriaeth hinsawdd a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, yn ogystal ag ymgyrchu ar nifer o faterion cyfiawnder hinsawdd gan gynnwys llygredd aer a thlodi tanwydd.

Ym mis Medi, lansiodd Cyfeillion y Ddaear Cymru eu 'Cynllun Gweithredu dros yr Hinsawdd' eu hunain ar gyfer Cymru, yn galw am adferiad gwyrdd a theg i bobl a chymunedau.

Mae Haf hefyd yn Is Gadeirydd Awyr Iach Cymru, ac yn eistedd ar grŵp llywio Cymru COP26 a Chynghrair Tlodi Tanwydd, ac roedd yn gyn Gadeirydd i Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru.