Hannah Blythyn

Dirprwy Weinidog
Tai a Llywodraeth Leol

Mae Hannah Blythyn o Sir Fflint yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Mae hi'n falch o fod yn dod o Ogledd Cymru, a mynychodd yr ysgol yn yr etholaeth mae hi'n ei chynrychioli erbyn heddiw. Cafodd Hannah ei hethol yn Aelod Cynulliad dros Ddelyn am y tro cyntaf yn etholiad 2016.

Yn ystod ei deunaw mis cyntaf yn y Cynulliad, cadeiriodd Grŵp Trawsbleidiol ar gyfer Gogledd Cymru a Chynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, ac roedd yn rhan o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, a Phwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.

Cyn cael ei hethol, roedd Hannah yn arwain gwaith gwleidyddol a pholisi ar gyfer Unite Wales, yn gweithredu mewn nifer o ymgyrchoedd llwyddiannus sydd wedi arwain at newid deddfwriaethol a phositif yng Nghymru a ledled y DU.

Mae hi hefyd yn gyn cyd-gadeirydd LGBT Llafur, ac roedd yn rhan o'r ymgyrch dros briodas gyfartal. Ar 13 Rhagfyr 2018 penodwyd Hannah yn Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol.

Y tu allan i’r byd gwleidyddol, mae Hannah yn hoffi bod yn yr awyr agored. Mae’n feiciwr brwd a gymerodd ran mewn taith feicio ar draws Kenya dros elusen.