John Davies

Llywydd
NFU Cymru

Mae John Davies wedi bod yn Llywydd NFU Cymru ers mis Ionawr 2018. Mae John yn ffermio gyda'i wraig Menna a'i blant, Sioned a Brychan, ym Merthyr Cynog, ger Aberhonddu. Mae ganddo 100 o wartheg magu, 1,000 o ddefaid, ac mae'n rhedeg busnes contractio silwair a llety gwyliau.

Ar hyn o bryd, John yw arweinydd ei Glwb Ffermwyr Ifanc lleol ym Mhontfaen, ac mae'n gynghorydd cymunedol. Roedd yn Llywydd i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 2012, ac ar hyn o bryd mae'n eistedd ar Fwrdd Rheoli'r CAFC.