Kevin Booker

Systemau TG a Fflyd
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheinio

Ar hyn o bryd, mae Kevin Booker yn gweithio i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog - Awdurdod Lleol gyda phwrpas arbennig, sy'n gyfrifol am ofalu am Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'r Bannau Brycheiniog yn ymestyn dros 520 milltir sgwâr o dirwedd warchodedig, ac mae'n un o dri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru.

Cafodd ei gyflogi'n wreiddiol fel Swyddog Systemau TG, ond mae Kevin wedi troi ei ddiddordeb mewn ceir yn rhan o'i swydd gyda'r Parc Cenedlaethol. Mae wedi cymryd yr awenau gyda chaffael cerbydau lle mae Newid wedi digwydd yn gyflym. Cyflwynasom ein cerbydau rhannu trydanol yn 2016, a bellach mae 87% o'r fflyd hon yn drydanol, gan gynnwys Renault Zoe a 4 Hyundai Konas, oedd yn cymryd lle cerbydau diesel. Erbyn diwedd 2020, rydym yn bwriadu cael gwared â cherbydau tanwydd o'r fflyd yn gyfan gwbl. Rydym wedi cyflwyno 2 Outlander PHEV i leihau allyriadau fflyd y wardeniaid, a chymryd lle pob cerbyd diesel gyda modelau cydsyniol Ewro 6. Yn 2016, derbyniasom statws Chwmni Go Ultra Low am ein ymrwymiad parhaus i symudedd trydanol.

Mae Kevin hefyd wedi cymryd yr awenau gyda chefnogi staff sydd ar y safle i osod datrysiadau ynni gwyrdd, ar ôl gosod dros 55KW o banelau solar yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf, a datrysiadau arloesol ar gyfer pwêr a ddarperir mewn safleoedd oddi ar y grid.