Paul Allen B.Eng (Anrh) FRSA

Cydlynydd y Prosiect
Ganolfan Technoleg Amgen

Mae Paul yn beiriannydd trydanol, ac ymunodd â'r Ganolfan Technoleg Amgen yn 1988, gan ddatblygu ystod eang o systemau ynni adnewyddadwy gan gynnwys systemau meddygol yn defnyddio ynni'r haul i'w defnyddio dramor. Mae ganddo 30 mlynedd o brofiad mewn cychwyn prosiectau ymchwil 'blaenllaw', ac yn meddu ar brofiad technegol ac ymarferol cryf. Mae Paul wedi arwain ymchwil arloesol Prydain Di-Garbon ers 12 mlynedd; wedi arwain datblygiad chwe adroddiad a thrafod yn uniongyrchol â Llywodraethau, busnesau, y sector cyhoeddus a'r celfyddydau i rannu eu canfyddiadau. Mae ganddo brofiad helaeth o siarad cyhoeddus, o Gynadleddau y Partïon yng Nghonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd i hyfforddiant yn y cyngor lleol.

Mae Paul wedi bod yn aelod o Gyngor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymru (2010-14), Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd (2007-2015) ac yn aelod o fwrdd y Fforwm Rhyngwladol ar gyfer Ynni Cynaliadwy (2008-2013). Roedd yn gyd-awdur "Culture Shift", adroddiad ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru.