Shavanah Taj

Ysgrifennydd Cyffredinol
TUC Cymru

Shavanah Taj yw Ysgrifennydd Cyffredinol Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BME) cyntaf TUC Cymru. Ymunodd â TUC Cymru ym mis Chwefror 2019 o Undeb Gwasanaethau Masnachol a Cyhoeddus (PCS), lle bu'n Ysgrifennydd Cymru ers 2013.

Mae Shavanah yn ymgyrchydd angerddol sy'n cyfrannu'n aml at areithiau mewn trafodaethau bwrdd crwn a gorymdeithiau protest ar faterion megis gwrth-hiliaeth, hawliau dynol, hawliau merched, tâl a gwaith têg.

Cyn ymuno â'r PC fel swyddog llawn amser yn 2002, roedd Shavanah yn gweithio ym myd manwerthu, canolfannau galwadau a'r trydydd sector.

Cafodd ei geni a'i magu yng Nghaerdydd, ym mwrlwm symudiad yr undeb llafur. Roedd ei thad yn gynrychiolydd Iechyd a Diogelwch yn y gweithfeydd dur.

"Roedd bob amser yn ein hannog ni i amddiffyn ein hunain a sefyll gydag eraill mewn amser o angen" dywedodd Shavanah.

Mae Shavanah yn angerddol am gydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol. Mae hi'n noddwr i Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, ac yn ymddiriedolwr ar gyfer y Sefydliad Henna sy'n cefnogi dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig a thrais ar sail anrhydedd.

Mae hi hefyd yn ymddiriedolwr i Fio, sef grŵp theatr llawr gwlad sy'n annog pobl ifanc sy'n gweithio i ymgysylltu â'r celfyddydau a diwylliant.