Stuart Capstick

Dirprwy Gyfarwyddwr
CAST

Stuart Capstick yw Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Newid Hinsawdd a Thrawsnewidiadau Cymdeithasol (CAST) ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei ymchwil yn ymdrin â sut mae pobl yn deall ac yn gweithredu ar newid hinsawdd. Beth sy'n achosi ein lefel o ddiddordeb a phryder am y pwnc hwn? Sut allwn ni gynnwys pobl mewn creu cymdeithas carbon isel well? Sut ellir trosi'r ymdeimlad priodol o argyfwng ynghylch newid hinsawdd yn leihad ystyrlon a phellgyrhaeddol mewn allyriadau?