Anthony Geddes

Rheolwr Cenedlaethol Cymru
Confor

Ymunodd Anthony Geddes â thîm cenedlaethol Confor yn dilyn pedair blynedd gyda'r busnes arolygu ac ymgynghoriaeth coedwigaeth sefydledig John Clegg & Co. Ar ôl hyfforddi fel peiriannydd ac arallgyfeirio gyda Gradd Meistr mewn rheoli asedau, mae ei 15 mlynedd dilynol o brofiad o fuddsoddi, ailgylchu coed ac ynni adnewyddadwy yn darparu sylfaen ardderchog ar gyfer cefnogi Diwydiant Coedwigoedd Cymru. Ei nod yw cefnogi coedwigaeth gynaliadwy a busnesau sy'n defnyddio coed drwy ymgysylltu gwleidyddol, hyrwyddo'r farchnad a chefnogi cystadleurwydd aelodau.

Mae'n ystyried ei hun i fod yn Gynaliadwyedd-wr, mae coedwigaeth yn esblygu ac mae angen i amgylcheddwyr, addysgwyr a'r diwydiant economaidd gydfodoli er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl. Mae'n werth ystyried bod ei waith gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru yn archwilio rhagolygon coedwigo ar gyfer sicrhau targedau datgarboneiddio, newid yn yr hinsawdd, ansawdd aer a lleihau llifogydd tra'n cynyddu argaeledd coed.

Pan nad yw'n siarad am goed, caiff ei weld gan amlaf yn beicio o'u cwmpas.