Geraint Jones

Swyddog Technegol Coedwigaeth
Cyswllt Ffermio

Cafodd Geraint ei fagu ar fferm da byw ucheldir, ac mae bellach yn ffermio yn Llanfair Talhaearn, ac wedi gweithio yn y sectorau amaethyddiaeth a choedwigaeth ers dros 40 mlynedd.

Ar ôl graddio o'r coleg ymunodd â Chyngor Gwynedd i reoli Meithrinfa Coed Glynllifon a chyflenwi coed i ffermwyr a choedwigwyr ledled Gogledd Cymru. Manteisiodd ar gyfle i ymuno â Choed Cymru yn 2003 fel Swyddog Coetir sy'n gwasanaethu Sir Conwy a Pharc Cenedlaethol Eryri a arweiniodd at berthynas waith agos â thirfeddianwyr a choedwigwyr yr oedd yn cynllunio ac yn gweithredu nifer o brosiectau amgylcheddol llwyddiannus ledled y sir ar eu cyfer tra'n creu a chryfhau'r gadwyn gyflenwi leol.

Ar ddiwedd 2016 ymunodd Geraint â Menter a Busnes a Thîm Cyswllt Ffermio fel Swyddog Technegol Coedwigaeth Cymru. Ei rôl yw gweithio gyda rhwydwaith arddangos Cyswllt Ffermio i hwyluso trosglwyddo gwybodaeth i ffermwyr a choedwigwyr ar amrywiaeth eang o bynciau o hadu i hau. Wrth anelu at gefnogi busnesau i ddatblygu a chynyddu effeithlonrwydd a phroffidioldeb, mae Geraint yn helpu'r sectorau i adnabod cyfleoedd ar gyfer ffyniant amgylcheddol ac economaidd yn y dyfodol.