Gethin Rhys

Swyddog Polisi
Cytûn

Mae’r Parchedig Gethin Rhys yn weinidog Cristnogol sydd wedi gwasanaethu yn ardal Aberhonddu, Coleg Trefeca, a Threfforest a’r Rhondda. Mae ganddo raddau uwch mewn Gwleidyddiaeth a Diwinyddiaeth. 

Erbyn hyn mae’n gweithio i Cytûn (Eglwysi ynghyd yng Nghymru), y corff ymbarél i brif enwadau Cristnogol Cymru, fel Swyddog Polisi. Mae’r gwaith hwn yn golygu hybu cyfathrebu cydrhwng yr eglwysi a Llywodraeth a Senedd Cymru, ac â Llywodraeth a Senedd y Deyrnas Unedig ar faterion sy’n effeithio Cymru. Mae ar hyn o bryd yn Brif Gynrychiolydd ar gyfer Crefydd ar Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, ac yn rhinwedd hynny yn cyfarfod yn rheolaidd â’r Gweinidog Amgylchedd a gweinidogion eraill Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. 

Fe fydd yn siarad heddiw ar ran Sul yr Hinsawdd, menter eglwysi Prydain ac Iwerddon i ymbaratoi ar gyfer COP26 o ran gweddi, gweithredu ar lawr gwlad a gweithredu gwleidyddol. Mae’n aelod o Bwyllgor Llywio’r Sul.