Sian Cox

Cydlynydd
Extinction Rebellion

Ymunodd Sian ag Extinction Rebellion (XR) ym mis Tachwedd 2018. Mae wedi cymryd rhan ym mhob un o'i brif gamau gweithredu yn Llundain. Mae'n un o sylfaenwyr dau grŵp XR lleol yng Nghymru.

Cydlynodd hyfforddiant gweithredwyr XR ledled Cymru tan fis Hydref eleni. Mae'n cyflwyno dwy drafodaeth gyhoeddus - 'Heading for Extinction (And What To Do About It)' ac 'What is a Citizens' Assembly and Why is it XR's Third Demand?' - ac yn hyfforddi gweithredwyr eraill i'w cyflwyno. Mae hefyd yn hyfforddi gweithredwyr mewn cyfathrebu di-drais: gwrando ar ddicter pobl gyffredin sy'n cael eu tarfu gan weithredoedd XR gydag empathi a pharch; a dweud y gwir am ddifrifoldeb yr hinsawdd ac argyfwng ecolegol gyda thosturi.

Ar hyn o bryd, mae'n gydgysylltydd gwaith XR Cymru i godi ymwybyddiaeth am Gynulliadau Dinasyddion. Ei gwaith cyflogedig yw gweithiwr achos therapiwtig gyda phobl ifanc sydd â phroblemau gyda chamddefnyddio sylweddau.