Sinéad Murphy

Rheolwr Cyfrif Busnes a Darparu Prosiect
WRAP

Mae Sinéad Murphy yn Rheolwr Cyfrif Busnes a Darparu Prosiect yn WRAP sy'n gweithio ar raglen cymorth caffael cynaliadwy WRAP Cymru yn y sector cyhoeddus.  Nod y rhaglen yw gwthio'r galw yng Nghymru am gynhyrchion mwy cynaliadwy gan gynnwys y rhai â chynnwys a chynhyrchion wedi'u hailgylchu i'w hailddefnyddio drwy gaffael yn y sector cyhoeddus. Mae Sinéad yn gweithio gyda sefydliadau'r sector cyhoeddus i adnabod cyfleoedd ar gyfer ymyrryd ac yn rhoi cymorth technegol i'r timau hynny sy'n gyfrifol am gaffael. 

Mae gan Sinéad dros 20 mlynedd o brofiad yn y maes amgylcheddol a chynaliadwyedd yn Iwerddon, Awstralia a'r DU ac mae wedi bod gyda WRAP Cymru ers pedair blynedd yn gweithio ar decstilau cynaliadwy WRAP a rhaglenni caffael cynaliadwy'r sector cyhoeddus.  Cyn ymuno â WRAP gweithiodd Sinéad ym maes ymgynghori, gan gynghori ar agweddau cynllunio a dylunio cynaliadwy ar gyfer prosiectau datblygu prif gynlluniau mawr yn y DU ac yn rhyngwladol.