Penelope Guarnay

Rheolwr y Rhaglen Garbon
BT

Ymunodd Penelope â BT yn gynnar yn 2020 i arwain strategaeth ddatgarboneiddio BT. Mae ei rôl yn cynnwys gweithio ar draws y busnes i sbarduno effeithlonrwydd carbon drwy drosglwyddo fflyd BT ac Openreach i gerbydau di-allyriad, datgarboneiddio 6,000 o adeiladau BT, a gweithio gyda chadwyn gyflenwi BT i sbarduno newid amgylcheddol parhaol. Eleni, lansiodd Penelope Cynghrair Fflydoedd Trydan y DU mewn partneriaeth â'r Grŵp Hinsawdd i gyflymu'r broses o drosglwyddo'r DU i gymdeithas Sero Net.

Mae Penelope yn cynrychioli BT mewn fforymau allanol fel Cyngor Busnes y Byd dros Ddatblygu Cynaliadwy (WBCSD) a'r Grŵp Hinsawdd. Mae'n siaradwr rheolaidd am daith BT i weithredu dros yr hinsawdd.

Cyn ymuno â thîm Effaith Ddigidol a Chynaliadwyedd BT, roedd Penelope wedi gweithio mewn Cynaliadwyedd Ynni ac Amgylcheddol ar draws diwydiannau manwerthu, eiddo, telathrebu ac olew.  Mae ganddi MA mewn Astudiaethau Rhyngwladol o Brifysgol Technoleg Sydney a BA mewn Cysylltiadau Rhyngwladol ac Ieithoedd o Brifysgol Sydney a thystysgrif ôl-raddedig mewn Rheoli Amgylcheddol o Brifysgol Caerfaddon.